Telerau Defnyddio

Defnydd a Ganiateir

Rhoddir caniatâd i ymwelwyr â gwefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan gael mynediad at ddeunyddiau cyhoeddedig (cynnwys) yn amodol ar y telerau hyn. Drwy ddefnyddio’r wefan, rydych yn cytuno i fod yn rhwym i’r telerau defnyddio.

Er y gellir cael mynediad at gynnwys, ei lawrlwytho a’i ddefnyddio at ddibenion personol ac anfasnachol (e.e. ymchwil breifat, astudiaeth neu ddefnydd mewnol); ni chaiff ymwelwyr atgynhyrchu na hailgyhoeddi unrhyw ddeunydd o’r wefan hon heb ganiatâd y wefan / perchennog yr hawlfraint.

Mae’r delweddau, y logos a’r graffeg a ddefnyddir ar y wefan hon yn eiddo i ni a/neu drydydd partïon. Ni ddylid defnyddio’r rhain heb gael caniatâd perchennog yr hawlfraint.

Rydych yn cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol sy’n ymwneud â’r wefan hon yn eiddo i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a, lle bo’n berthnasol, i drydydd parti cysylltiedig.

Gwybodaeth Bersonol

Pan fyddwch chi’n cyflwyno data adnabyddadwy yn wirfoddol ar y wefan hon (mae hyn yn cynnwys cyflwyno ffurflen adborth, holiaduron ac ati), dim ond i ymateb i’ch ymholiadau ac at y diben a fwriadwyd y defnyddir y wybodaeth a gyflwynir. Nid ydym yn rhannu gwybodaeth defnyddwyr y we gyda thrydydd partïon.

Amddiffyn rhag feirws

Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd am firysau. Fodd bynnag, argymhellir eich bod yn rhedeg rhaglen gwrthfeirws ar bob deunydd a lawrlwythir o’r rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu system gyfrifiadurol a allai ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.

Ymwadiad

Cymerir gofal i sicrhau bod cynnwys y wefan yn gywir. Serch hynny, darperir cynnwys at ddibenion gwybodaeth gyffredinol yn unig, ac rydych yn ei ddefnyddio ar eich risg eich hun. Ni fyddwn yn atebol am ddifrod neu golled sy’n deillio o unrhyw weithred neu hepgoriad sy’n deillio o ddefnyddio gwybodaeth ar y wefan hon.

Gwefannau Allanol

Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd unrhyw wefannau cysylltiedig. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd mewn perthynas â’r cynnwys nac am ganlyniadau dilyn unrhyw gyngor sydd wedi’i gynnwys ar y safleoedd hynny. Ni ddylid cymryd rhestr fel unrhyw fath o gymeradwyaeth.

Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau cysylltiedig na newid cyfeiriad gwefan.

Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr hawl i wrthod neu ddileu dolenni i unrhyw wefan.

Nodwedd Google Translate

Mae gwefannau GIG Cymru, sydd â’r Nodwedd Google Translate wedi’i galluogi, yn cynnig cyfieithiadau a gyflawnir gan Google™ Translate, gwasanaeth trydydd parti nad oes gan GIG Cymru unrhyw reolaeth drosto. Nid yw tudalennau wedi’u cyfieithu yn rhan o’r wefan a gynhelir, ac nid oes ganddynt unrhyw ddolen i barth GIG Cymru.

Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfieithiad cyfrifiadurol awtomataidd ac, o’r herwydd, ni fydd yn gyfieithiad perffaith a bydd yn dueddol o wneud camgymeriadau na fyddai siaradwr dynol yn eu gwneud fel arall.

Dylid defnyddio’r cyfieithiad fel canllaw bras yn unig. Nid yw GIG Cymru mewn unrhyw ffordd yn derbyn atebolrwydd am gywirdeb y cyfieithiadau hyn nac unrhyw golled a achosir o ganlyniad iddynt.

Gwelliannau yn y Dyfodol

Bydd newidiadau dilynol i’r telerau hyn ar gael ar y wefan hon.