Ffenestr Goddefgarwch

Animeiddiad sy’n ein helpu i feddwl am y newid rhwng ymladd/ffoi i rewi/cwympo; a’r hyn y gall oedolion ei wneud i helpu i ddod â’r plentyn yn ôl i’w ffenestr goddefgarwch fel y gallant fod ar eu gorau personol. Er ei fod yn cyfeirio at bobl ifanc sydd wedi’u trawmateiddio, gallwn ni i gyd uniaethu â hyn ac ystyried sut mae gofid yn effeithio ar ein hymdopi a’n hymddygiad.

Ffenestr Goddefgarwch (CAMHS Hampshire)

Mae’r fideo hwn yn egluro’r cysyniad o’r enw ‘Ffenestr Goddefgarwch’ sy’n canolbwyntio ar allu person i ymdopi â straenwr, yn ogystal â meddwl am yr hyn all achosi i’n ffenestr goddefgarwch grebachu neu ehangu.