Ffenestr Goddefgarwch

Animeiddiad sy’n ein helpu i feddwl am y newid rhwng ymladd/ffoi i rewi/cwympo; a’r hyn y gall oedolion ei wneud i helpu i ddod â’r plentyn yn ôl i’w ffenestr goddefgarwch fel y gallant fod ar eu gorau personol. Er ei fod yn cyfeirio at bobl ifanc sydd wedi’u trawmateiddio, gallwn ni i gyd uniaethu â hyn ac ystyried sut mae gofid yn effeithio ar ein hymdopi a’n hymddygiad.

Parthau Rheoleiddio

Mae’r poster hwn yn darparu fersiwn y gellir ei hargraffu o’r parthau rheoleiddio y gallwch eu defnyddio gyda’ch plentyn.

Ffenestr Goddefgarwch (CAMHS Hampshire)

Mae’r fideo hwn yn egluro’r cysyniad o’r enw ‘Ffenestr Goddefgarwch’ sy’n canolbwyntio ar allu person i ymdopi â straenwr, yn ogystal â meddwl am yr hyn all achosi i’n ffenestr goddefgarwch grebachu neu ehangu.

Fy Llyfryn Llesiant Emosiynol

Mae’r llyfryn hwn wedi’i gynllunio i helpu i ddysgu pobl ifanc am eu hemosiynau ac mae’n llawn gweithgareddau hwyliog i helpu plant i fynegi a rheoli eu hemosiynau.

Pryder

Canllaw i blant niwroamrywiol sy’n profi pryder.

Pryder (Yr Ymennydd)

Mae’r canllaw hwn yn disgrifio arwyddion cyffredin o bryder ac yn rhoi syniadau i chi ynglŷn â sut i hyrwyddo lles.

Pecyn Cymorth Pryder

Mae’r llyfryn hwn yn darparu gwybodaeth a gweithgareddau i helpu rhieni i reoli pryder mewn pobl ifanc a hyrwyddo lles.

Llyfr Tawelwch

Llyfryn i ddysgu strategaethau i bobl ifanc ag anableddau dysgu ar gyfer rheoli eu hemosiynau

Ap Tawel

Myfyrdodau tywysedig a straeon amser gwely i bob oed. Dewisiadau sy’n addas i deuluoedd i gysgu’n haws.